Bywgraffiad

Pwy ydi Huw M?


Huw M yw’r cyfansoddwr a pherfformiwr o Gymru Huw Meredydd Roberts. Mae’n chwarae cymysgedd o felodïau gwreiddiol a chaneuon gwerin, wedi’u plethu gyda dylanwadau rhyngwladol i greu cerddoriaeth iasol, ddeallus. Mae Lucy Simmonds yn ymuno ar y sielo a chanu, Bethan Mai yn canu a chwarae’r acordion, a Iolo Whelan ar y drymiau, offerynnau taro ac yn canu.

Fe gyfeiriodd Stuart Maconie ar BBC 6 Music at sengl gyntaf Huw M fel “a stunningly beautiful piece of music”. Cafodd ei ddau albym cyntaf dderbyniad gwresog a chefnogaeth eang gan gyflwynwyr fel Marc Riley, Huw Stephens a Gideon Coe; cafodd ei ail albwm, Gathering Dusk, hefyd ei enwebu ar gyfer y Gwobr Gerddoriaeth Gymreig.

Utica (2015) yw albym diweddaraf Huw M, y cyntaf i gael ei ryddhau ar label I Ka Ching, gafodd ei ddewis fel Label yr Wythnos gan gylchgrawn NME yn ddiweddar. Ar gyfer y record yma, mae Huw wedi bod yn cydweithio gyda’r Chwiorydd Marshall o Gaerdydd i blethu dylanwadau gospel cynnar gyda chanu gwerin Cymreig, gan ychwanegu llond llaw o ddwyster, hiraeth a thor calon. Hynod o hapus yn wir.

huwm_9-g

ALBYMS


SENGLAU + EPs


ALBYMS


SENGLAU + EPs


ALBYMS


Os Mewn Sŵn

Rhyddhawyd: 2009 (annibynnol)
Ail-ryddhawyd: 2010 (Gwymon)

Mae Os Mewn Sŵn yn gymysgedd o ganeuon gwreiddiol ac ambell i gân draddodiadol, wedi’u cymysgu gyda dylanwadau o Ffrainc a Brasil ac offerynnau gwych a gwallgo fel y sitar a’r Maui Xaphoon. Gafodd yr albym, sef record hir gyntaf Huw M, ei recordio mewn cyfnod o 4 mis yn ystod gaeaf 2008-9 gan y cynhyrchydd Frank Naughton.


Gathering Dusk

Rhyddhawyd: 2011

Mae’r gair ‘hyfryd’ efallai’n cael ei or-ddefnyddio a’i gam defnyddio. Ond o eiliadau bregus gwe pry cop ‘For while I wait for you to sleep’ i lawnder haenog ‘Dyma lythyr’, mae ‘Gathering Dusk’ yn hyfrydwch pur. Cynhyrchwyd gan Frank Naughton a Llion Robertson. Gafodd chwech o’r caneuon eu hail-gymysgu gan Trwbador, Dileu, Y Pencadlys, Frank Naughton, Kronwall a Jakokoyak ar gyfer EP o ail-gymysgiadau.


Utica

Rhyddhawyd: 2015 (Recordiau I Ka Ching)

Utica yw trydydd albym Huw M, y cyntaf i gael ei ryddhau ar label I Ka Ching. Ar gyfer yr albym yma, mae Huw wedi bod yn cydweithio gyda nifer o gerddorion amryddawn i blethu dylanwadau gospel cynnar gyda chanu gwerin Cymreig.


SENGLAU + EPs


Llwyd a Huw M – Rhywbeth Dros Dro

Rhyddhawyd: 2008 (annibynnol)

Sengl cyntaf Huw M gyda’r cerddor Erddin Llwyd. Roedd y sengl yn cynnwys tair cân – ‘Michelle Michelle’ gan Huw, ‘Barbariaid’ gan Llwyd, a ‘Rhywbeth dros dro’ gan y ddau artist ar y cyd. Dim ond nifer cyfyngedig oedd ar gael, ac mae’r cyfan wedi mynd.


Llwyd a Huw M – Dechrau yn y Dechrau

Rhyddhawyd: 2008 (annibynnol)

Ail sengl Huw M gyda’r cerddor Erddin Llwyd. Roedd yn cynnwys tair cân – ‘Dechrau yn y dechrau’ gan y ddau artist ar y cyd, ‘Gofod a’r Gwifrau’ gan Llwyd, ‘Seddi gwag’ gan Huw M. Dim ond nifer cyfyngedig oedd ar gael, ac mae’r cyfan wedi mynd.


Yn Ddistaw Ddistaw Bach

Rhyddhawyd: 2010 (annibynnol)

EP Nadoligaidd oedd yn cynnwys cymysgedd o ganeuon gwreiddiol, carolau a fersiwn newydd o Siôn Corn gan J Glyn Davies. Dim ond nifer cyfyngedig oedd ar gael, ac mae’r cyfan wedi mynd.


UTICA


Utica yw trydydd albym Huw M, y cyntaf i gael ei ryddhau ar label I Ka Ching. Ar gyfer yr albym yma, mae Huw wedi bod yn cydweithio gyda’r Chwiorydd Marshall o Gaerdydd i blethu dylanwadau gospel cynnar gyda chanu gwerin Cymreig, gan ychwanegu llond llaw o ddwyster, hiraeth a thor calon. Hynod o hapus yn wir.

Huw M yw’r cyfansoddwr a pherfformiwr Huw Meredydd Roberts, sy’n chwarae cymysgedd o felodïau gwreiddiol a chaneuon gwerin, i greu cerddoriaeth ddeallus, iasol. Mae Lucy Simmonds yn ymuno ar y sielo a chanu, Bethan Mai yn canu a chwarae’r acordion, a Iolo Whelan ar y drymiau, offerynnau taro ac yn canu.

Mae cefndir Utica wedi ei wreiddio’n ddwfn yn nhir Cymru ac America, o ran cynnwys a mynegiant. Mae’r gân werin Si hwi hwi wedi teithio Môr yr Iwerydd lawer gwaith cyn setlo ar ei ffurf bresennol ar yr albym yma…

Yn yr 1850au, bu i’r bardd Rowland Walter (1819 – 1884) o Flaenau Ffestiniog fudo i’r Unol Daleithiau. Fe’i cythruddwyd gan anghyfiawnder caethwasiaeth, ac fe’i cyflyrwyd i ysgrifennu cerdd ddwys am noson olaf mam a phlentyn gyda’i gilydd.

Canrif yn ddiweddarach, symudodd canwr gwerin ac ysgolor ifanc, o’r un ardal â Rowland Walter, i America i astudio yn Princeton – neb llai na’r diweddar Meredydd Evans (1919 – 2015). Yn ystod ei gyfnod yno, bu iddo recordio albym o gerddoriaeth werin Gymraeg. Un gân a ddewiswyd ganddo oedd Si hwi hwi; hwiangerdd a ganwyd iddo gan ei fam, sef cerdd Rowland Walter wedi ei gosod ar y dôn Morfa Rhuddlan. Dyma felly gyflawni’r cylch, a’r gân brotest hynod bwysig hon yn cael ei hanfarwoli. Ac mae ei ffurf fwyaf diweddar yn cael lle dyledus ar Utica.

 

Mae’r albym hefyd wedi ei dylanwadu gan y casglwr caneuon gwerin fyd-enwog Alan Lomax. Mae’r trac sy’n cloi Utica, ‘Worried now, won’t be worried long’, yn fersiwn o gân gafodd ei chanu gan Sidney Hemphill Carter a’i recordio gan Alan Lomax yn 1959 yn Senatobia, Mississippi.

Mae’r penderfyniad i recordio Utica yn ‘fyw’ yn rhoi lle i glywed enaid llychlyd pob cân, gan roi i’r gwrandawyr fomentau hyfryd o frau, megis y caneuon gwreiddiol ‘Cydia yn fy llaw’ ac ‘I wanted you to cry’, ynghyd â fersiwn o’r glasur ‘Anial dir’ gan y grŵp electronig arbrofol o’r 90au Eirin Peryglus.

Disgrifiwyd cerddoriaeth Huw M yn y gorffennol fel ‘stunningly beautiful’ gan Stuart Maconie ar BBC 6 Music, ac ni fydd Utica’n siomi. Trwy gyfrwng caneuon benthyg a chyfansoddiadau gwreiddiol hudolus, mae’r themâu oesol o ofid a hiraeth yn cael eu hail eni, a’u gwisgo o’r newydd.

I ddarllen mwy am hanes recordio Utica a chefndir rhai o’r caneuon, ac i weld lluniau’r stiwdio, ewch i flog Huw M.

Hoffai Huw M ddiolch i Cyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth.

ACW_logo_black_landscape

EISIAU LLUNIAU A BYWGRAFFIAD HUW M? LAWRLWYTHWCH BECYN Y WASG
LAWRLWYTHO
Huw M

Huw M yw’r cerddor Huw Meredydd Roberts o Gymru. Mae’n cydweithio gyda nifer o gerddorion eraill i blethu dylanwadau rhyngwladol gyda chanu gwerin Cymraeg. Ei albym diweddaraf yw Utica (2015) sydd wedi ei ryddhau gan Recordiau I Ka Ching.

LINCS

I KA CHING
Label recordiau Huw M

Blog Utica
Hanes Huw yn recordio Utica

Bandcamp
Gwrando ar y gerddoriaeth

Soundcloud
Gwrando ar y gerddoriaeth

Spillers Records
Prynu'r gerddoriaeth

DILYNWCH

Dilynwch Huw M ar y cyfryngau arferol.

Twitter

Facebook

--------

Lluniau y wefan gan Kirsten McTernan. Dyluniwyd ac adeiladwyd y wefan gan Dafydd Owain.
© Huw M 2015. Diogelir pob hawl.